13/06/2025
🤩 Mae wythnos wedi mynd ers i ni groesawu miloedd i ganol Tref Llangefni! 🎉
🤩 Its a week since we welcomed thousands to Llangefni! 🎉
Diolch eto i holl gefnogwyr yr ŵyl - i’n noddwyr, i fusnesau’r dref, perfformwyr, cyflwynwyr, partneriaid, arianwyr, cyfrannwr raffl, swyddogion arbenigol, ac yn bennaf oll – i’n cynulleidfa.
Bydd angen ystyried trefniadau 2026 yn ofalus er mwyn parhau â safon yr arlwy, a diogelwch y dref. Byddwn yn hel adborth gennych chi, y cyhoedd a chyfranogwyr, felly cadwch olwg am ffurflen adborth dros y dyddiau nesaf.
Ac i gloi, dyma rannu efo chi rai o hoff luniau’r pwyllgor – mae hwn yn gasgliad gan fwy nag un ffotograffydd ac rydym yn ddiolchgar iddyn nhw gyd am ddal hud yr ŵyl mewn sgwariau lliwgar o hapusrwydd.
🫶🫶🫶
Thanks again to all the supporters of the festival; to our sponsors, to the town's businesses, performers, presenters, partners, funders, raffle contributors, specialist officers, and above all - to our audience.
The arrangements for 2026 will need to be carefully considered to ensure the quality of the event, and the safety of the town. We’ll be gathering feedback from you, the public and participants, so keep an eye for a feedback form over the next few days.
And finally, we’d like to share some of the committee's favourite photos with you - this is a collection from more than one photographer, and we are grateful to them all for capturing the magic of the festival in colourful squares of happiness.