Venue Cymru (Cymraeg)

Venue Cymru (Cymraeg) Theatr ac arena cyngherddau yn Llandudno ydi Venue Cymru, ar arfordir Gogledd Cymru.

*Tydi Venue Cymru ddim yn cymeradwyo nac yn gyfrifol am y negeseuon sy’n cael eu hanfon gan gefnogwyr ein Tudalen.

*Cadwch eich sylwadau yn berthnasol i bwnc y tudalen/neges. Bydd sylwadau sydd ddim i wneud â’r pwnc yn cael eu dileu fel bod yr holl drafodaethau yn canolbwyntio ar ein holl ddefnyddwyr. Efallai y cychwynir trafodaethau newydd ar bynciau newydd a dylid cyfeirio’r holl sylwadau perth

nasol yno.

* Byddwn yn ceisio eich helpu gydag unrhyw ymholiadau, ond rydym am barchu eich preifatrwydd, felly ni fyddwn yn gofyn am fanylion cyswllt personol ar y dudalen hon. Efallai y bydd angen gofyn i chi gysylltu â ni yn breifat drwy e-bost neu neges breifat.

*Rhaid trin pobl eraill mewn modd cyfeillgar - fel y byddech yn hoffi cael eich trin eich hun. Byddwch yn gwrtais, hyd yn oed os ydych yn anghytuno.

*Ni chaniateir iaith ymosodol ac anghyfeillgar nac ymddygiad ymosodol na bwlio (boed wedi'u hanelu at ddefnyddwyr, unigolion, Venue Cymru neu gwmnïau eraill).

*Mae cynnwys sy'n anllad, yn drallodus, difenwol, yn rhy graffig, enllibus, athrodus, yn benodol rhywiol a/neu sy'n cynnwys noethni hefyd yn cael ei wahardd.

*Bydd negeseuon, a all gyfeirio at unigolion drwy ddefnyddio gwybodaeth bersonol, yn cael eu dileu.

*Bydd spam, sylwadau yn amodol ar faterion cyfreithiol, cynnwys â thuedd grefyddol neu wleidyddol amlwg, cynnwys gyda honiadau heb eu gwirio neu ffug am gynhyrchion, delweddau a fideo heb drwydded/caniatâd priodol, cynnwys sy’n groes i unrhyw gyfraith neu reoliad, cynnwys sy'n hyrwyddo cyffuriau neu alcohol a gweithgareddau anghyfreithlon neu amhriodol neu ymddygiad peryglus ac unrhyw gynnwys arall sy'n tarfu ar fwynhad y gymuned i ddefnyddwyr eraill yn cael eu dileu.

* Nid ydym yn cymryd cyfrifoldeb am gynnwys unrhyw wefannau allanol cysylltiedig

*Rydym yn croesawu barn adeiladol o Venue Cymru lle y gallwn weithredu arnynt neu ymateb iddynt.

*Parchwch holl dermau ac amodau Facebook http://on.fb.me/hix5Xa

Ddim yn siŵr beth ydi Bongo Bingo? Meddyliwch am …✅ Bingo traddodiadol✅ Cystadlaethau dawnsio✅ Egwyliau rêf✅ Y gynulleid...
05/09/2026

Ddim yn siŵr beth ydi Bongo Bingo? Meddyliwch am …

✅ Bingo traddodiadol
✅ Cystadlaethau dawnsio
✅ Egwyliau rêf
✅ Y gynulleidfa’n cymryd rhan
✅ Gwobrau gwallgof

Felly, casglwch eich ffrindiau at ei gilydd, ARCHEBWCH RWAN ac ymunwch â ni nos Sadwrn nesaf (12 Medi), am noson i’w chofio (neu ddim)! 🎉🪩

🎭 Clyweliadau’r Ensemble IauAm ddiwrnod! Rydyn ni wedi bod yn cynnal clyweliadau ar gyfer ein Ensemble Iau ar gyfer Pant...
05/09/2026

🎭 Clyweliadau’r Ensemble Iau

Am ddiwrnod! Rydyn ni wedi bod yn cynnal clyweliadau ar gyfer ein Ensemble Iau ar gyfer Panto’r Nadolig eleni, a daeth dros 160 o bobl ifanc draw!

Mae wedi bod yn ddiwrnod hir a phrysur iawn, ond dylai pob un o’r bobl ifanc a ddaeth i’r clyweliadau fod yn falch iawn ohonyn nhw eu hunain.

Diolch yn fawr iawn i bawb am aros mor amyneddgar, cefnogi ei gilydd a dangos cymaint o broffesiynoldeb o oedran mor ifanc.

Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r profiad, wedi cael hwyl ac wedi dysgu rhywbeth ar hyd y ffordd. Cofiwch yr hyn rydych wedi’i ddysgu heddiw, daliwch ati i weithio’n galed, a dewch yn ôl hyd yn oed yn gryfach y flwyddyn nesaf!

Ac wrth gwrs, llongyfarchiadau mawr i’n 16 o berfformwyr ifanc llwyddiannus a fydd yn ymuno â ni ar gyfer Panto’r Nadolig eleni! Methu aros i’ch gweld chi ar y llwyfan!

Da iawn i bawb — dylech chi i gyd fod yn falch iawn ohonoch chi’ch hunain!!

✨ AM DDIM ✨Ydych chi erioed wedi gofyn i chi'ch hun beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni pan fydd y perfformiad drosodd?...
05/09/2026

✨ AM DDIM ✨
Ydych chi erioed wedi gofyn i chi'ch hun beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni pan fydd y perfformiad drosodd? 🎭 Ymunwch â ni am daith unigryw y tu ôl i’r llenni yn Venue Cymru a darganfyddwch y cyfrinachau sy’n troi theatr yn lle o ryfeddod. Cewch gyfarfod â rhai o’r tîm talentog sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni i ddod â phob perfformiad yn fyw. Crwydrwch drwy’r ystafelloedd gwisgo a safwch yn y goleuadau ar ein llwyfan. ✨ Ar hyd y ffordd, mwynhewch flas o’n darpariaeth arlwyo ar y safle a chlywch am ein cynlluniau adnewyddu cyffrous.
📅 Dydd Sadwrd 19 Medi, 10:00 - 16:00 🔗 https://bit.ly/3UDt45p

📣 Oherwydd y galw, mae DYDDIAD NEWYDD wedi’i ryddhau ar gyfer sioe Michael Mania ym mis Hydref! 🎟️ Mae dydd Mercher 14 H...
04/09/2026

📣 Oherwydd y galw, mae DYDDIAD NEWYDD wedi’i ryddhau ar gyfer sioe Michael Mania ym mis Hydref! 🎟️ Mae dydd Mercher 14 Hydref bron â GWERTHU ALLAN, ond rydym ni’n cynnig cyfle arall i chi ymuno â ni ddydd Mawrth 13 Hydref, fel nad oes rhaid i chi golli allan! 🤩 AR WERTH RŴAN!

🎭 Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Opera Cenedlaethol Cymru yn ôl i Venue Cymru ym mis Hydref! Maent yn cyflwyno tri p...
03/09/2026

🎭 Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Opera Cenedlaethol Cymru yn ôl i Venue Cymru ym mis Hydref! Maent yn cyflwyno tri pherfformiad anhygoel, fyddwch chi ddim eisiau colli’r rhain. Archebwch yn awr a phrofi rhyfeddod Opera Cenedlaethol Cymru! 🎟️ https://bit.ly/3feq1f8

🎤 SING THE MUSICALS 🎶 YN SYTH O’R WEST END YN LLUNDAIN – Taith genedlaethol gyntaf y sioeau cerdd gorau erioed wedi’u pe...
02/09/2026

🎤 SING THE MUSICALS 🎶 YN SYTH O’R WEST END YN LLUNDAIN – Taith genedlaethol gyntaf y sioeau cerdd gorau erioed wedi’u perfformio gan fand byw a chantorion anhygoel y cymeriadau, ac mae sgrin enfawr yn dangos geiriau’r caneuon yn gwneud hon yn sioe na ddylech ei methu yn 2026/27.

📅 19 Medi, 2026
🎟️ https://bit.ly/47ljOpW

01/09/2026

Adam Garcia a Tom Ball yn serennu yn EMERALD STORM 🤩

Riverdance a Stomp yn cyfuno i greu storm ar y llwyfan! ✨ Yn syth o'r West End, sioe ddawns wefreiddiol newydd gydag Adam Garcia a Tom Ball yn serennu.

🩰 Profwch swyn yr Imperial Classical Ballet, yma yn Venue Cymru. 🩰🦢 Swan Lake, bale oesol gyda dawnsio cain, yn cynnwys ...
31/08/2026

🩰 Profwch swyn yr Imperial Classical Ballet, yma yn Venue Cymru. 🩰

🦢 Swan Lake, bale oesol gyda dawnsio cain, yn cynnwys Cerddorfa fyw gyda thros 30 o gerddorion ar 6 Hydref.
💞 Giselle, bale rhamantus lle mae cariad yn trechu brad, yma ar 7 Hydref.

30/08/2026

🎃🦇 Noswaith arswydus o dda, yn llawn o glasuron iasoer i’r teulu oll! 👻🐈‍⬛

Wrth iddi dywyllu ymhobman, ymunwch â’r cast a’r band byw bendigedig. Gydag effeithiau gwefreiddiol ar y llwyfan a chynhyrchiad o’r radd flaenaf, dyma ddathliad mawreddog o Galan Gaeaf… gyda thro annisgwyl! 🎶

📅 27 Hydref 🎟️ https://bit.ly/4qxYztr

29/08/2026

🌊 Dewch gyda ni am noson o antur gefnforol! 🐠 Mae Taith Fyd-eang Gŵyl Ffilmiau Ocean yn cynnwys casgliad newydd o ffilmiau cefnforol anhygoel. 🎥

🌎 Cewch fentro i ddyfnderoedd y blaned nas gwelir yn aml, gallwch chi gwrdd â syrffwyr, padlwyr, deifwyr a gwyddonwyr sydd wedi ymroi i ateb galwad y cefnforoedd. Dyma gyfle i archwilio rhyfeddodau'r cefnforoedd – heb gael eich traed yn wlyb. 🎟️ 3 Hydref, 2026!

Address

Y Promenad, Llandudno
Conwy
LL301BB

Opening Hours

Monday 9:30am - 8:30pm
Tuesday 9:30am - 8:30pm
Wednesday 9:30am - 8:30pm
Thursday 9:30am - 8:30pm
Friday 9:30am - 8:30pm
Saturday 9:30am - 8:30pm

Telephone

+441492879771

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Venue Cymru (Cymraeg) posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share