Eglwys y Crwys

Eglwys y Crwys Presbyterian Church of Wales - Eglwys Bresbyteraidd Cymru

Croeso cynnes i chi addoli gyda ni ddydd Sul! ⛪Ar ddydd Sul y 26ain o Orffennaf, bydd dwy oedfa:🕥 10.30yb – dan ofal yr ...
25/07/2026

Croeso cynnes i chi addoli gyda ni ddydd Sul! ⛪
Ar ddydd Sul y 26ain o Orffennaf, bydd dwy oedfa:
🕥 10.30yb – dan ofal yr Arweinydd
💻 6.00yh – dan ofal Mrs Margaret Jones (dros Zoom yn unig).

https://us02web.zoom.us/j/86718839442?pwd=V1RoT1VXeUpDeXpWYUY3VjYvR3JKZz09

Yr Ysgol Sul
Gan fod gwyliau’r haf wedi cyrraedd, ni fydd Ysgol Sul dros y cyfnod hwn. Dymunwn wyliau hapus a bendigedig i’n hathrawon, ein plant a’n pobl ifanc.

Bydd croeso mawr i bawb ymuno â ni yn yr addoliad. Edrychwn ymlaen at eich gweld.

Zoom is the leader in modern enterprise cloud communications.

Diolch yn fawr am y gwirfoddoli o’n plith wrth fwydo’r di-gartref ddoe.
20/07/2026

Diolch yn fawr am y gwirfoddoli o’n plith wrth fwydo’r di-gartref ddoe.

Ar ddydd Sul 19 Gorffennaf, bydd dwy oedfa am 10.30yb a 6yh dan ofal y Parch. Aled Edwards.Ni fydd Ysgol Sul oherwydd gw...
18/07/2026

Ar ddydd Sul 19 Gorffennaf, bydd dwy oedfa am 10.30yb a 6yh dan ofal y Parch. Aled Edwards.

Ni fydd Ysgol Sul oherwydd gwyliau’r haf. Gwyliau hapus i’r athrawon, y plant a’r bobl ifanc!

📣 Mae angen rhagor o wirfoddolwyr i helpu i fwydo’r digartref yn y Tabernacl. Dewch erbyn 1.30yp; byddwn yn gorffen tua 3.45–4yp. Bydd croeso i chi gynnig cymorth am ran o’r amser. Gofynnir hefyd am gyfraniadau o deisennau a digon o ffrwythau. Cysylltwch â ni.

📣 Galwad am wirfoddolwyrTro’r Crwys yw hi i helpu gyda bwydo’r digartref yn y Tabernacl y Sul hwn, ac mae angen ychydig ...
17/07/2026

📣 Galwad am wirfoddolwyr

Tro’r Crwys yw hi i helpu gyda bwydo’r digartref yn y Tabernacl y Sul hwn, ac mae angen ychydig mwy o wirfoddolwyr arnom. Help!

Gofynnir i bawb gyrraedd erbyn 1.30yp, a bydd y gwaith yn parhau tan tua 4yp. Byddem yn falch iawn o’ch cymorth, hyd yn oed os mai dim ond am ran o’r amser y gallwch ddod.

Byddem hefyd yn ddiolchgar iawn am gyfraniadau o gacennau a digon o ffrwythau. 🍰🍎

Os gallwch helpu, cysylltwch isod neu drwy neges uniongyrchol cyn gynted â phosibl. Diolch o galon am bob cymorth.

Dewch i addoli gyda ni yn Eglwys y Crwys y Sul hwn (12 Gorffennaf).⛪ Oedfaon am 10.30yb a 6.00yh dan ofal ein cyn-Weinid...
11/07/2026

Dewch i addoli gyda ni yn Eglwys y Crwys y Sul hwn (12 Gorffennaf).

⛪ Oedfaon am 10.30yb a 6.00yh dan ofal ein cyn-Weinidog, y Parchedig Glyn Tudwal Jones.

🎳 Cofiwch fod trip yr Ysgol Sul i Tenpin, Parc Nantgarw. Cyrhaeddwch erbyn 10.45yb; bydd y bowlio’n dechrau am 11.00yb.

Diolch o galon hefyd i bawb am eich cefnogaeth, eich gweddïau a’r ysbryd cynnes a brofwyd yn ystod pleidlais yr wythnos ddiwethaf.

Mae croeso cynnes i bawb.

Rhagor o luniau o’n ffrindiau yn y Gymanfa!
10/07/2026

Rhagor o luniau o’n ffrindiau yn y Gymanfa!

📖 Mae rhifyn newydd Y Gadwyn bellach ar gael!O antur stormus ar fwrdd y Waverley, i deithiau rhyfeddol yn Aotearoa (Sela...
09/07/2026

📖 Mae rhifyn newydd Y Gadwyn bellach ar gael!

O antur stormus ar fwrdd y Waverley, i deithiau rhyfeddol yn Aotearoa (Seland Newydd) ac i dde-ddwyrain Twrci, mae’r rhifyn hwn yn llawn straeon difyr a myfyrdodau ysbrydoledig.

Ceir hefyd neges amserol gan yr Arweinydd, newyddion o fywyd yr eglwys, hiwmor William Owen, erthygl Clive Rowlands ar fwynhad darllen, ynghyd â’r holl hysbysiadau a threfniadau ar gyfer y misoedd nesaf.

Cymerwch baned, eisteddwch yn ôl, a mwynhewch ddarllen rhifyn haf Y Gadwyn. 🌿

Braf gweld cyffeillion hoff y Crwys ym Mhorthmadog. Cameraderie y Gymanfa ar ei orau.
08/07/2026

Braf gweld cyffeillion hoff y Crwys ym Mhorthmadog. Cameraderie y Gymanfa ar ei orau.

07/07/2026

Y Gymanfa Gyffredinol 2026

Address

77 Richmond Road
Cardiff
CF243AR

Opening Hours

10:30am - 11:30am
6pm - 7pm

Website

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Eglwys y Crwys posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share