08/07/2025
Cafon ni gyfarfod llwyddiannus heno.
Camau Nesaf
Mi fydd ein cynghorydd lleol, Geraint Parry, yn cysylltu â swyddogion am gynllun i gynnal y ffair ar y 13eg o Dachwedd eleni.
Byddwn ni’n codi sylw ac yn ymgyrchu i rannu pwysigrwydd treftadaeth y ffair, gan ystyried bod Ffair Llan gyntaf wedi cael ei chynnal yn 1699!
Pan fydd y cynllun wedi’i dderbyn, byddwn ni’n cyfarfod fel cymuned i benderfynu ar yr hyn sy’n bwysig i ni a beth yr ydym am ei weld.